Thursday, January 12, 2012

Hen Senedd-Dŷ Tywysog Owain Glyndŵr Dolgellau ar Fin Cael ei Golli am byth!


Gwyddys y mwyafrif yng Nghymru sydd â diddordeb yn hanes ein cenedl -  ac yn arbennig yn hanes ein harwr cenedlaethol mwyaf, Owain Glyndŵr a’i Rhyfel am Annibyniaeth, am gysylltiadau tref Machynlleth a’r cyffiniau â’r hanes hynny ond faint, sgwn i, sy’n ymwybodol o gysylltiadau’r arwr â thref Dolgellau a’r ffaith fod yna dystiolaeth ddogfennol yn bod yn nodi iddo ef a’i gynghorwyr gynnal cynulliadau pwysig mewn Senedd-Dŷ yn y dref honno’n ogystal.
Mae sawl ffynhonnell, yn cynnwys y croniclau Seisnig, yn croniclo i Dywysog Owain Glyndŵr anfon ei ganghellor dawnus, Gruffudd Yonge, ynghŷd â John Hamner, ei frawd yng nghyfraith, o Ddolgellau ar y 10fed o Fai 1404 i Ffrainc gyda  llythyr pwysig yn eu meddiant yn mofyn cymorth milwrol Siarl V1.  Oherwydd y dystiolaeth ddogfennol sydd wedi goroesi, gallem dderbyn yn eithaf hyderus fod yr hanes uchod yn gywir ond, yn anffodus, does dim tystiolaeth bendant wedi dod i’r wyneb - hyd yma, parthed ymhle yn union yn Nolgellau bu i’r llythyr a gyfeiriwyd ato uchod gael ei gyfansoddi.  Serch hynny, yn ôl traddodiad lleol - sydd wedi goroesi’r canrifoedd, adeilad o’r enw Plas Cwrt yn Dre, eiddo sylweddol o uchel radd yn ei ddydd ac adeilad a adnabuwyd ar hyd y canrifoedd fel ‘Hen Senedd-Dŷ Owain Glyndŵr’ oedd yr adeilad yn Nolgellau lle arferai Tywysog Owain Glyndŵr gynnal cyfarfodydd gwleidyddol pwysig gyda'i gynghorwyr a phenaethiaid pwysig eraill y genedl.


 
Hwyrach nad yw ‘traddodiad lleol’ gyfystyr a thystiolaeth ddogfennol bendant ond os cymerir y dystiolaeth ddogfennol bendant bod y llythyr wedi ei gyfansoddi yn Nolgellau i ystyriaeth, ynghyd a’r ffaith fod Plas Cwrt yn Dre wedi cael ei adnabod yn lleol i lawr drwy’r canrifoedd fel hen Senedd - Dŷ Owain Glyndŵr, yna tybiaf fod yna achos digon cryf dros dderbyn dilysrwydd yr adeilad yma fel un o adeiladau Cynulliad Tywysog Owain Glyndŵr - neu Senedd-Dŷ hyd yn oed, fel a’i adnabyddid yn lleol.

Yn ogystal, diolch i arolygiad ac adroddiad a wnaed ar yr adeilad gan bensaer o’r enw A.B.Phipson yn 1885 (a gyfeiria, gyda llaw, at yr adeilad yn ei adroddiad ac yn ei gynlluniau o’r adeilad fel “Old Parliament House Dolgelley”) datgelwyd bod rhannau helaeth o’r adeilad yn perthyn i’r 14eg ganrif. Os felly, roedd yr adeilad ar ei draed cyn cychwyn Rhyfel am Annibyniaeth Owain Glyndŵr. 

Ta waeth prun ai Cynulliad neu Senedd-Dy sy’n gywir yng nghyswllt pa ddefnydd a wnaed o’r adeilad gan Dywysog Owain Glyndŵr, beth sy’n bwysig, yn fy nhyb i, yw’r ffaith fod y dystiolaeth ffeithiol, ynghyd a’r gred leol a oroesodd, yn ei hun yn ddigon i roi dilysrwydd i Plas Cwrt yn Dre fel adeilad y dylid fod wedi ei drysori fel trysor cenedlaethol - ond, i gryfhau’r achos ymhellach pam y dylid bod wedi gwarchod yr adeilad yma, ymddengys bod yr eiddo wedi bod yn gartref  i’r Barwn Lewis Owen wedi cyfnod Glyndŵr. Roedd y Barwn yn gymeriad pwysig yn Senedd Lloegr yn y 16eg ganrif, yn Ganghellor y Drysorlys ar gyfer Gogledd Cymru ac yn cynrychioli Sir Feirionydd yn y Senedd cyn iddo gael ei ladd gan y Gwylliaid Cochion yn 1555.

Erbyn canol y ddeunawfed ganrif, roedd yr hen Senedd-Dŷ ynghyd a nifer o adeiladau eraill a ffurfiau’r eiddo a adnabyddid fel Plas Cwrt yn Dre yn brysur dirywio ac yn 1874, gwerthwyd y cyfan i Mr Edward Jones, perchennog Gwesty'r ‘Royal Ship’.

Ymddengys i’r Hen Senedd-Dy fod yn atyniad i ymwelwyr hyd yn oed yn y cyfnod hynny ac roedd nifer o bwysigion y dref yn dechrau sylweddoli ei werth. Ffurfiwyd pwyllgor gyda’r nod o godi arian i brynu ac adfer yr eiddo a dyna pryd benodwyd A.B. Phipson i gynnal archwiliad ar yr adeilad - ac yn ogystal â chadarnhau yn ei adroddiad fod rhannau helaeth o’r eiddo yn perthyn i’r 14eg ganrif, tynnodd sylw at nodweddion o bwys hanesyddol (megis ffram a drws a cholyn wedi eu naddu o un darn o goed) y dylid eu cadw tran’n atgyweirio.

Amcan bris y gost o atgyweirio oedd rhwng £150 - 200; swm bychan i’w godi i adfer adeilad mor bwysig hyd yn oed yn y dyddiau hynny ac ar y 5ed o Dachwedd 1875, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y dref er mwyn trafod y posibilrwydd o brynu’r adeilad hynafol ar gyfer y dref. Yn ôl papur lleol y Dydd (19 Tachwedd 1875) death Mr Edward Jones i’r cyfarfod a chynnig Plas Cwrt yn Dre i’r dref am y pris roedd o wedi talu amdano yn yr ocsiwn neu, roedd yn barod, hyd yn oed, i osod yr eiddo am bum mlynedd i’r dref am y swm rhesymol iawn o £21 y flwyddyn er mwyn caniatáu digon o amser i’r dref ystyried prynu ond, gwnaed y penderfyniad syfrdanol i beidio â lansio apêl i brynu Plas Cwrt yn Dre am fod Samuel Holland, Aelod Seneddol  Meirionydd ar y pryd, wedi lansio apêl arall i godi £1,000 i sefydlu Ysgol fonedd i ferched sef, Ysgol Dr Williams.

Diwinydd o Wrecsam oedd Dr Daniel Williams; doedd ganddo ddim cysylltiad o gwbl â Dolgellau ond ar ei farwolaeth yn 1716, gadawodd swm sylweddol o arian i’w ddefnyddio ar gyfer elusennau addysgol yng Nghymru ac roedd ymddiriedolaeth yr elusen yn cynnig arian tuag at sefydlu a chynnal ysgol yng Ngogledd Cymru ar yr amod fod y swm o £1,000 yn cael eu gwarantu’n lleol, ynghyd a dwy acer o dir ar safle a fyddai’n addas ar gyfer yr ysgol. Byddai wedi gwneud mwy o synnwyr i godi’r ysgol yn Wrecsam, tref y Dr Williams ond roedd Samuel Holland yn benderfynol o gael yr ysgol yn Nolgellau ac oherwydd hynny, collwyd y cyfle i brynu Plas Cwrt yn Dre a blwyddyn yn ddiweddarach, gwerthwyd yr eiddo (ond nid y safle) i Mr Pryce-Jones (a ddaeth yn ddiweddarach yn Syr Pryce Jones) o’r Drenewydd.

Dymchwelwyd Plas Cwrt yn Dre a danfonwyd neuadd, oriel a grisiau allanol yr Hen Senedd-Dŷ, (mewn tri deg a dau o dryciau) ar y rheilffordd i’r Drenewydd. Ailgodwyd  y rhan yma o’r adeilad ym Mharc Dolerw ar stad Syr Pryce Jones ond, yn anffodus, doedd y grefft o ail-leoli heb ei berffeithio yn y cyfnod hynny a chollwyd dipyn ar gymeriad yr adeilad holl bwysig yma yn ystod yr ailgodi ond, serch hynny, mae’n parhau i sefyll yn ddarn hynod o bwysig o hanes Cymru o hyd.

Yn ystod y ganrif ddiwethaf, cafodd yr adeilad ei ddefnyddio gan y fyddin yn ystod yr ail rhyfel byd ac yna gan Gymdeithas y ‘Girl Guides’ yn y pumdegau ac yna, yn 1968, yn anghredadwy, cafodd ei ‘rhoi’ yn rhad ac am ddim i’r Crynwyr gan y Fonheddes Sara Pryce Jones - a bu i’r Crynwyr gynnal eu cyfarfodydd yn yr adeilad tan yn weddol ddiweddar hyd nes iddynt benderfynu nad oedd ganddynt mo’r modd i’w gynnal bellach felly, cynigwyd yr hen Senedd-Dŷ am ddim i Sain Ffagan, yn y lle cyntaf, ac yna i Cadw. Yn anhygoel, bu i’r ddau sefydliad yma, sydd a’r cyfrifoldeb dros warchod ein henebion hanesyddol, wrthod y cynnig ar y sail nad oedd tystiolaeth bendant parthed y cysylltiadau hanesyddol - ac yn wir, yn achos CADW (Cipio A Dinistrio Walia) pan aethant ati i gofrestru’r adeilad yn y Drenewydd yn Adeilad Cofrestredig Radd 2 yn 2008, aethant ati yn ddigon hy a haerllug i nodi ar y ddogfen cofrestru “Incorrectly termed Glyndwr’s Dolgellau Parliament House”  a hynny heb gymryd unrhyw sylw o dystiolaeth arbenigol y pensaer Phipson na wneud unrhyw brofion arbenigol a manwl o’r adeilad eu hunain o gwbl!
Y gwir amdani yw nad yw CADW am roi unrhyw ddilysrwydd i unrhyw safle yng Nghymru sydd â chysylltiadau gwirioneddol dilys ag Owain Glyndŵr. Byddai cyfaddef bod hanes ein harwr cenedlaethol mwyaf yn hanes go iawn drwy roi dilysrwydd i safleoedd brwydrau neu adeiladau sydd yn bendant wedi chwarae rhan yn ei Rhyfel Fawr am Annibyniaeth ddim yn boddhau eu meistri Seisnig ac oherwydd, maent yr un mor barod i fanteisio ar bob cyfle i gladdu unrhyw dystiolaeth ddiriaethol sy’n ymwneud a’r hanes cenedlaethol pwysig yma pryd bynnag mae’n dod i’r wyneb - yn union fel ag y bu i haneswyr taeog ei wneud i lawr drwy’r oesoedd wedi i ryfel Glyndŵr ddirwyn i ben.

Dyna’r gwir rheswm, yn fy nhyb i, pam nad oes gan CADW unrhyw ddiddordeb mewn cynnal archwiliad manwl ar yr Hen Senedd-Dŷ a dyna paham nad oedan nhw am dderbyn yr adeilad (fel rhodd) a’i achub ar ran y genedl.

Erbyn hyn, mae’r hen adeilad hynafol yn y broses o gael ei werthu am £55,000 i aelod o’r Crynwyr sy’n byw yn Lloegr ond  mae’r Crynwyr yng Nghymru wedi dweud eu bod yn barod i dynnu’r eiddo oddi ar y farchnad os daw cadarnhad oddi wrth CADW, neu’r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol  eu bod yn bendant am brynu’r trysor cenedlaethol yma ar gyfer y genedl - ac mae yna ychydig o amser ar ôl sy’n caniatáu hyn os gweithredir ar frys gan fod y cyfreithwyr sy’n gyfrifol dros y gwerthiant wedi gofyn i CADW gynnal asesiad newydd o’r eiddo, felly, gellir ddim cario’n mlaen a’r gwerthiant nes y bydd CADW wedi gwneud hynny.

Yn ogystal, mae hyn yn golygu fod yna gyfle i ni fel cenedl achub yr Hen Senedd-Dŷ (neu’r hyn sydd ar ôl ohono) drwy yrru miloedd o lythyrau at Y Cynulliad Cenedlaethol, Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn mynnu, eu bod yn y lle cyntaf, yn prynu’r adeilad hynafol ar gyfer y genedl, ac yn ail, yn ei adfer, cymaint ag sy’n bosibl, i’w ogoniant gwreiddiol cyn ei agor i’r cyhoedd fel amgueddfa a fydd yn olrhain ei hanes o gyfnod Owain Glyndŵr i fynnu i’r presennol. Yn ogystal â bod yn atyniad deniadol a thu hwnt o ddiddorol ar gyfer ymwelwyr ac ysgolion, byddai’n ased pwysig iawn i’r Drenewydd. Felly, apeliaf yn daer ar bawb sy’n darllen yr erthygl yma i lythyru’n ddi-oed at y cyrff a nodwyd uchod. Dewch i ni beidio ag ail adrodd hanes a cholli’r cyfle unwaith ac am byth y tro yma i achub yr adeilad hynafol yma. Dewch i ni sicrhau Plas Cwrt yn Dre fel calennig gwerth ei roi i’r genedl.

Yn ogystal, Os am achub yr hyn sydd ar ôl o'r hen Senedd-Dŷ, arwyddwch y ddeiseb isod.


 
Siân Ifan